The Gentle Good a’r Mavron Quartet + Ivan Moult

Cyflwynwyd gan Gŵyl y Llais a Bubblewrap Collective

The Gentle Good yw enw llwyfan Gareth Bonello (enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2017), y cyfansoddwr a’r offerynnwr amryddawn o Gaerdydd. Dan ddylanwad cerddoriaeth draddodiadol a gwerin Cymru, ynghyd â ffynonellau di-ben-draw eraill o bedwar ban y byd, mae Gareth yn creu cerddoriaeth werin oesol yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Ac yntau’n fwyaf adnabyddus am ganu’r gitâr ac am ei lais trawiadol, gall Gareth hudo cynulleidfaoedd fel artist unigryw a chyda bandiau byw. Mae Gareth wedi cydweithio â'r Mavron Quartet ers sawl blwyddyn, a byddan nhw’n camu i’r llwyfan drachefn i roi’r perfformiad hynod hwn. 

Mae Ivan Moult wedi’i fendithio â llais a allai dawelu’r ellyllon gwaethaf, ac mae ei waith yn perthyn i fan anarferol, mwyn rhwng traddodiad gwerin/blws y 1970au a chanu telynegol, cyffesol modern. 

Bydd y Mavron String Quartet yn cadw cwmni i’r artistiaid ar y llwyfan ar gyfer noson unigryw ar gyfer Gŵyl y Llais.

Ivan Moult

Bubblewrap Collective 

Label record annibynnol o Gymru yw Bubblewrap Collective. Mae’n cyhoeddi cerddoriaeth mewn amrywiaeth o arddulliau, ac ar ôl bron i ddegawd o ryddhau recordiau, mae’r label a’r holl dalentau y mae wedi’u darganfod yn dipyn o ryfeddod.  

Reviews

"The arrangement is dreamy and warm with the Mavron Quartet’s strings the flickering candlelight around which Gareth’s melody dips and floats". Fruk

"With a quiet beauty akin to Ben Howard, Ivan Moult has a knack with his raw vocal and acoustic guitar. Proof that Moult hasn’t lost any of the immediacy that makes him stand out." The Music Site