Ibibio Sound Machine

+ Afro Cluster

Eno Williams, cantores a aned yn Llundain sydd â’i gwreiddiau yn Nigeria, yw prif leisydd Ibibio Sound Machine, pair o elfennau Affricanaidd ac electronig sydd wedi dwyn mesur cyfartal o ysbrydoliaeth o oes aur ffync gorllewin Affrica, disgo, ôl-pync modern, ac electro. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, a enwyd ar ôl y band, yn 2014, ac ers hynny maen nhw wedi bod yn gwneud enw iddyn nhw’u hunain fel band byw llawn egni, gan ymddangos ar lwyfannau fel Later… with Jools Holland, Glastonbury, a Gŵyl 6 Music y BBC, yn ogystal â lleoliadau eiconig fel Theatr y Glôb Shakespeare yn Llundain fel rhan o gyfres ‘Wonder Women’ Lauren Laverne. 

Ar gyfer eu sioe yng Ngŵyl y Llais byddwn yn troi Theatr Donald Gordon yn lleoliad clwb am y noson, lle gallwch ddisgwyl delweddau barddonol atgofus a negeseuon i’ch grymuso, heb anghofio’r seiniau Affro-Electro cyfoes sy’n sicrhau lle unigryw i’r band o fewn y don bresennol o gerddoriaeth fodern Affro-ganolog sy’n ysgubo drwy’r byd.

Fe fydd Afro Cluster yn ymuno Ibibio Sound Machine ar y noson hon. Band o Gaerdydd ydyn nhw, sydd yn cyfuno Afro-funk a hip-hop mewn ffordd unigryw a chyffrous.

Yn defnyddio samplau, adran cyrn ac adran rhythm, yn ogystal a steil MC Skunkadelic, mae ganddyn nhw sain enfawr a sioe fyw ffrwydrol!

Afro Cluster